Cynorthwyydd Ymchwil ac Interniaid – Ynys Mon

Bob blwyddyn mae Sea Watch Foundation yn chwilio am Gynorthwyydd Ymwchil ac Interniaid ar gyfer y tymor yn ein swyddfa maes ar Ynys Môn, Gogledd Cymru, i gymryd rhan mewn menter wyddor dinasyddion gyffrous i ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymwelwyr i arsylwi a chofnodi mamaliaid ac adar morol o gwmpas Bae Caernarfon. Bydd y gwaith yn enteilio arolygon o mamaliaid morol ac adar mor o gwch ac o’r lan, ymgysylltu a’r cyhoedd a gwaith ymchwil. 

Bydd y cyfle hon yn addas i wirfoddolwyr sydd â sgiliau arwain cryf, diddordeb mawr mewn cadwraeth forol ac sy’n cydnabod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd morol drwy ymgysylltu â’r cyhoedd o bob grŵp oedran. Gall y swydd hon fod yn amrywiol iawn, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu delio â thasgau amrywiol, o gorweld interniaid eraill i rheoli data a gwaith arolwg. Maent yn cael eu hannog i gymeryd rheolaeth o gefnogi’r Arweinydd Prosiect a Swyddog Allgymorth ym mhob agwedd o’r prosiect, yn ogystal a cymeryd rhan mewn gwaith addysg a gweithgareddau yn yr ardal sydd oherwydd ei harddwch natruiol yn derbyn niferoedd mawr o ymwelwyr yn ystod yr haf.  

Bydd y cynorthwyydd yn gyfrifol am y canlynol: 

  1. Goruchwylio gweithgareddau’r tîm o hyd at chwech intern preswyl ar unrhyw un adeg, gyda chefnogaeth Rheolwr y Prosiect. 
  1. Goruchwylio cynhaliaeth o’r llety a’r swyddfa. 
  1. Cefnogi’r Rheolwr Prosiect a’r Swyddog Allgymorth yn eu swyddogaethau. 
  1. Cefnogi’r interniaid ymchwil yn eu gwaith a cyflwyno’r cynnydd  i’r Rheolwr Prosiect. 
  1. Darparu hyfforddiant i’r interniaid pan yn digon hyderus i wneud. 
  1. Codi proffil y Sea Watch Foundation yn lleol (trefnu digwyddiadau, siarad â’r cyhoedd, cysylltu â rhanddeiliaid lleol i ddatblygu rhagor o weithgareddau interniaeth); 
  1. Datblygu arolygon o famaliaid morol ac adar môr yn ardal de-orllewin Ynys Môn a Bae Caernarfon, gan wylio o’r tir a chymryd rhan mewn arolygon ar gychod. 
  1. Ymgysylltu â chymunedau lleol, annog a hyfforddi dinasyddion-wyddonwyr i gasglu data am famaliaid morol ac adar môr; 
  1. Hyrwyddo a threfnu gweithgareddau allgymorth ac addysg digwyddiad National Whale and Dolphin Watch
  1. Creu allgynhyrchion a casgliadau o ddata 
  1. Cymryd rhan mewn cyflwyniadau a chreu gweithgareddau i’w cyflwyno i ysgolion / grwpiau lleol, yn ogystal â defnyddio ein sgyrsiau arbenigol mewn digwyddiadau lleol; 
  1. Creu deunyddiau addysgol / hyrwyddo (posteri, arddangosfeydd, taflenni); 
  1. Rhwydweithio cymdeithasol rheolaidd (Facebook, Twitter, Instagram, blogiau, gwefan) 
  1. Cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi yn Ynys Môn a Gwynedd; 
  1. Cynrychioli Sea Watch mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Ynys Môn a Gwynedd; 
  1. Darperir hyfforddiant a goruchwyliaeth gan Reolwr y Prosiect drwy gydol arhosiad y Cyd-drefnydd Interniaid..

Bydd y tymor maes yn rhedeg o Mawrth i Hydref ac, ar gyfer yr Interniaid Ymchwil, mae wedi cael ei rannu’n gyfnodau o 6 wythnos. Oriau swyddfa tebygol yw 10:00yb i 17:00yh, 5 diwrnod yr wythnos, bydd dyddiau gwaith yn gymysgedd o ddyddiau wythnos a penwythnos. Mae’n ddelfrydol i’n Cynorthwydd Ymchwil ag Interniaid i aros am y tymor cyfan, ond os nad yn bosib, gall y rôl gael ei rhannu i 2 sesiwn. 

Sesiynau’r CYI am haf 2025: 

Sesiwn 1af: Mawrth 31ain – Gorffenaf 20ain 

Seswin 2ail: Gorffenaf 20ain – Tachwedd 5ed 

Bydd yr cynorthwyyd wedi’i leoli ar Ystad Bodorgan, Ynys Môn. Bydd llety’n cael ei ddarparu, heb rent, mewn tŷ sy’n cael ei rannu â’r Interniaid Ymchwil. Bydd yr Cynorthwydd Ymchwil ag Interniaid yn cael ystafell preifet gyda gwely dwbl, ond yn gyfrifol am ei gostau teithio a byw ei hun.  Bydd biliau cyfleustodau am y swydd yma yn cael ei dalu gan y prosiect. 

Rydym yn croeso ceisiadau rhyngwadol, ond mae’n gyfrifoldeb yr ymgeisydd i sicrhau fod gofynion visa wedi’i cyraedd ac rydym yn gofyn i’r ymgeisydd uwcholeuo eu dewis visa yn y cais. Nodwch nid yw Sea Watch Foundation yn gallu noddi cais visa ar gyfer interniaid.  

Sgiliau / cymwysterau pwysig 

Hanfodol: 

  • diddordeb cryf mewn cadwraeth ac addysg forol 
  • Cefndir mewn bioleg morol/gwyddoniaeth amgylcheddol neu tebyg 
  • y gallu i ddirprwyo, mynd ymlaen yn dda gyda tîm bach ac wrth rhannu llety 
  • cludiant eu hunain (bydd costau teithio o fewn y prosiect yn cael eu talu yn ôl) 
  • personoliaeth allblyg, hyder a phrofiad o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd 
  • profiad o weithio gyda plant a phobl ifanc 
  • sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol a rhywfaint o brofiad o siarad yn gyhoeddus 
  • rhaid i’r Cynorthwyyd Ymchwil ag Interniaid feddu ar flaengaredd, cymhelliant, y gallu i ddod â’i syniadau a’i bersonoliaeth i’r swydd, a’r gallu i feddwl ar ei draed ei hyn 
  • ymrwymiad cryf i waith gwirfoddol 
  • Cludiant eu hyn (bydd costau trafeilio o fewn y prosiect yn cael ei dalu yn ol gan y prosiect) 
  • gweithio’n annibynnol, mewn modd trefnus a dibynadwy a rheoli llwyth gwaith amrywiol 
  • dylai’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Interniaid gynrychioli SWF yn broffesiynol ar bob achlysur 
  • y gallu i weithio a chyd-fyw gyda gwirfoddolwyr eraill mewn lleoliad ynysig 
  • Sgiliau TG da (Office Package) 

 
Dymunol: 

  • diddordeb cryf a rhywfaint o wybodaeth am famaliaid ac adar morol Prydain 
  • Profiad gyda R Studio ac QGIS 
  • Profiad o creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol 
  • y gallu i siarad Cymraeg 
  • parodrwydd i weithio oriau hir, weithiau yn yr awyr agored, mewn tywydd cyfnewidiol 
  • Profiad gyda camera DSLR 
  • Profiad gyda gwaith cwch a gwaith arolwg 

I ymgeisio gyrrwch: 

  • Eich CV 
  • Ac Llythyr  yn amlinellu: 

– Pam hoffwch ymgeisio 

– Unrhyw sgiliau fysech yn cyfrannu at y prosiect 

– Unrhyw cyflyrau meddygol fel ein fod yn gallu cynghori chi am unrhyw rhagofalon i gymeryd yn ystod gwaith maes neu unrhyw beth gallwn rhoid cyngor i chi am 

– Manylion cysylltu dau canolwr 

– Os ydych yn ymgeisio am y tymor cyfan neu un o’r sesiynau (nodwch eich sesiwn dewisol) 

Os gwelwch yn dda gyrrwch yr uchod i: 

Elan Jones (Swyddog Allgymorth) – elan.jones@seawatchfoundation.org.uk 

Dyddiad cau: Hanner nos 2ail o Chwefror 2025 

Nodwch “CAIS CYNORTHWYDD YMCHWIL AG INTERNIAID” yn y pwnc ar gyfer eich neges 

Os ydych yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor efallai fod chi’n gymwys am gymorth arianol tuag at costau’r interniaeth drwy’r Gronfa Bwrsari Profiad Gwaith. Am fwy o wybodaeth, llenwch fewn ein Ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb ac cyfeiriwch at “Seawatch” yng nghwestiwn 15.

Bydd cyfweliad yr ymgeiswyr yn cael ei gynnal drost Zoom.