Intern Ymchwil – Ynys Mon

Mae’r Sea Watch Foundation yn chwilio am Interniaid Ymchwil ar gyfer tymor 2025 yn ei swyddfa maes newydd ar Ynys Môn, Gogledd Cymru, i gymryd rhan mewn cynllun gwyddoniaeth newydd a chyffrous i ddinasyddion er mwyn cynnwys cymunedau lleol ac ymwelwyr yn y gwaith o arsylwi a chofnodi mamaliaid ac adar morol fel rhan o brosiect cadwraeth morol.  

Bydd y rôl hon yn addas i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mawr mewn cadwraeth forol ac sy’n cydnabod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd morol drwy ymgysylltu â’r cyhoedd o bob grŵp oedran. Gall y rôl hon fod yn amrywiol iawn, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu delio â thasgau amrywiol, o allgymorth cyhoeddus i arolygon ar gychod a chasglu ac ymdrin a data gwyddonol. Maent yn cael eu hannog i gynnal mentrau gyda gweithgareddau addysg ac allgymorth yn y rhanbarth sydd, oherwydd ei harddwch naturiol, yn derbyn nifer fawr o ymwelwyr yn ystod yr haf.  

Bydd yr interniaid yn gyfrifol am y dyletswyddau canlynol: 

  1. Codi proffil y Sea Watch Foundation yn lleol (trefnu digwyddiadau, siarad â’r cyhoedd, cysylltu â rhanddeiliaid lleol); 
  1. Cynnal arolygon o famaliaid morol ac adar môr yn ardal de-orllewin Ynys Môn a Bae Caernarfon, gan wylio o’r tir a chymryd rhan mewn arolygon ar gychod; 
  1. Ymgysylltu â chymunedau lleol, annog a hyfforddi gwyddonwyr sy’n ddinasyddion i gasglu data am famaliaid morol ac adar môr; 
  1. Hyrwyddo a threfnu gweithgareddau allgymorth ac addysg digwyddiad y National Whale and Dolphin Watch
  1. Cymryd rhan mewn cyflwyniadau a chreu gweithgareddau i’w cyflwyno i ysgolion / grwpiau lleol, yn ogystal â defnyddio ein sgyrsiau arbenigol mewn digwyddiadau lleol; 
  1. Helpu i greu deunyddiau addysgol / hyrwyddo (posteri, arddangosfeydd, taflenni); 
  1. Cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi yn Ynys Môn a Gwynedd; 
  1. Cynrychioli Sea Watch mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Ynys Môn a Gwynedd; 
  1. Darperir hyfforddiant a goruchwyliaeth gan Reolwr y Prosiect a’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Allgymorth drwy gydol arhosiad yr interniaid. 

Bydd y tymor maes yn rhedeg o fis Ebrill i fis Hydref ac, ar gyfer Interniaid Ymchwil, mae wedi cael ei rannu’n gyfnodau o 6 wythnos. Oriau swyddfa tebygol yw 10:00yb i 17:00yh, 5 diwrnod yr wythnos, gyda gwaith maes yn disgyn allan o’r oriau yma. Bydd diwrnodau gweithio yn gymysgedd o ddyddiau wythnos ac penwythnos. 

Lleolir yr interniaid yn Ystâd Bodorgan, Ynys Môn. Bydd llety’n cael ei ddarparu, heb rent, mewn tŷ a fydd yn cael ei rannu â’r interniaid eraill a’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Interniaid. Mae ystafellodd yn cael ei rhannu rhwng 2 o bobl, mi wnawn i ein gorau i gymhwyso ystafellodd rhiw sengl ond efallai ni fydd hyn yn bosib pob tro. Bydd yr interniaid yn gyfrifol am eu costau teithio a byw eu hunain, gan gynnwys biliau cyfleustodau o £40 yr wythnos. Bydd unrhyw gostau teithio o fewn y prosiect yn cael ei dalu yn ôl gan y prosiect. 

Cyfnodau Interniaid Ymchwil ar gyfer haf 2025: 
 
Cyfnod 1:  7 Ebrill – 16 Mai 

Cyfnod 2:  19 Mai – 27 Mehefin  

Cyfnod 3: 30 Mehefin – 8 Awst 

Cyfnod 4:  11 Awst – 19 Medi

Cyfnod 5:  22 Medi – 31 Hydref 
 

Sgiliau / cymwysterau pwysig 

Hanfodol: 

  • diddordeb cryf mewn cadwraeth ac addysg forol 
  • personoliaeth allblyg, hyder  
  • sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol  
  • y gallu i weithio a byw gyda gwirfoddolwyr eraill mewn lleoliad wedi’i ynysu 
  • rhaid i interniaid feddu ar flaengaredd, cymhelliant, y gallu i ddod â’u syniadau a’u personoliaethau i’r swydd, a’r gallu i feddwl ar eu traed 
  • ymrwymiad cryf i waith gwirfoddol 
  • gweithio’n annibynnol, mewn modd trefnus a dibynadwy a rheoli llwyth gwaith amrywiol 
  • y gallu i gyd-dynnu’n dda ag eraill mewn tîm bach ac mewn llety a rennir 
  • dylai interniaid gynrychioli SWF yn broffesiynol ar bob achlysur 

 
Dymunol: 

  • cefndir mewn bioleg forol / gwyddoniaeth amgylcheddol neu debyg 
  • diddordeb cryf a rhywfaint o wybodaeth am famaliaid ac adar morol Prydain 
  • sgiliau TG da (pecyn Office) 
  • parodrwydd i weithio oriau hir, weithiau yn yr awyr agored, mewn tywydd cyfnewidiol 
  • eich cludiant eich hun (telir costau teithio o fewn y prosiect) 
  • y gallu i siarad Cymraeg  

I ymgeisio gyrrwch: 

  • Eich CV 
  • Llythyr Eglurhaol yn amlinellu: 

– Pam hoffwch ymgeisio 

– Pa sgiliau fysech yn cyfrannu at y prosiect 

– Pa gyfnod(au) hoffwch wirfoddoli 

– Unrhyw cyflyrau meddygol fel ein fod yn gallu cynghori chi am unrhyw rhagofalon i gymeryd yn ystod gwaith maes neu unrhyw beth gallwn rhoid cyngor i chi am 

Os gwelwch yn dda gyrrwch yr uchod i: 

Elan Jones (Swyddog Allgymorth) – elan.jones@seawatchfoundation.org.uk 

Dyddiad cau: 2ail o Chwefror 2025 

Nodwch “CAIS INTERN YMCHWIL YNYS MÔN” yn y pwnc ar gyfer eich neges

Os ydych yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor efallai fod chi’n gymwys am gymorth arianol tuag at costau’r interniaeth drwy’r Gronfa Bwrsari Profiad Gwaith. Am fwy o wybodaeth, llenwch fewn ein Ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb ac cyfeiriwch at “Seawatch” yng nghwestiwn 15.

Byddwn yn cynnal sesiwn gwybodaeth ar lein yn fuan yn Chwefror ble gall ymgeisydd glwyed mwy o wybodaeth am y prosiect ac bydd cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau.  Bydd ymgeisydd yn cael clywed os yw’n llwyddianus ac i pa gyfnod erbyn 5yh 28ain o Chwefror 2025.