Mae’r Sea Watch Foundation yn chwilio am Interniaid Ymchwil ac Cynorthwyydd Ymwchil ac Interniaid ar gyfer tymor 2024 yn ei swyddfa maes newydd ar Ynys Môn, Gogledd Cymru, i gymryd rhan mewn cynllun gwyddoniaeth newydd a chyffrous i ddinasyddion er mwyn cynnwys cymunedau lleol ac ymwelwyr yn y gwaith o arsylwi a chofnodi mamaliaid ac adar morol fel rhan o brosiect cadwraeth morol.
Interniaid Ymchwil
Bydd y swydd hon yn addas i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mawr mewn cadwraeth forol ac sy’n cydnabod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd morol drwy ymgysylltu â’r cyhoedd o bob grŵp oedran. Gall y swydd hon fod yn amrywiol iawn, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu delio â thasgau amrywiol, o allgymorth cyhoeddus i arolygon ar gychod a chasglu data gwyddonol. Maent yn cael eu hannog i gynnal mentrau gyda gweithgareddau addysg ac allgymorth yn y rhanbarth sydd, oherwydd ei harddwch naturiol, yn derbyn nifer fawr o ymwelwyr yn ystod yr haf.
Bydd yr interniaid yn gyfrifol am y dyletswyddau canlynol:
- Codi proffil y Sea Watch Foundation yn lleol (trefnu digwyddiadau, siarad â’r cyhoedd, cysylltu â rhanddeiliaid lleol);
- Cynnal arolygon o famaliaid morol ac adar môr yn ardal de-orllewin Ynys Môn a Bae Caernarfon, gan wylio o’r tir a chymryd rhan mewn arolygon ar gychod;
- Ymgysylltu â chymunedau lleol, annog a hyfforddi gwyddonwyr sy’n ddinasyddion i gasglu data am famaliaid morol ac adar môr;
- Hyrwyddo a threfnu gweithgareddau allgymorth ac addysg digwyddiad y National Whale and Dolphin Watch.
- Cymryd rhan mewn cyflwyniadau a chreu gweithgareddau i’w cyflwyno i ysgolion / grwpiau lleol, yn ogystal â defnyddio ein sgyrsiau arbenigol mewn digwyddiadau lleol;
- Helpu i greu deunyddiau addysgol / hyrwyddo (posteri, arddangosfeydd, taflenni);
- Cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi yn Ynys Môn a Gwynedd;
- Cynrychioli Sea Watch mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Ynys Môn a Gwynedd;
- Darperir hyfforddiant a goruchwyliaeth gan staff yr prosiect drwy gydol arhosiad yr interniaid.
Bydd y tymor maes yn rhedeg o fis Ebrill i fis Hydref 2024 ac, ar gyfer Interniaid Ymchwil, mae wedi cael ei rannu’n gyfnodau o 5 wythnos. Lleolir yr interniaid yn Ystâd Bodorgan, Ynys Môn. Bydd llety’n cael ei ddarparu, heb rent, mewn tŷ a fydd yn cael ei rannu â’r interniaid eraill a’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Allgymorth. Bydd yr interniaid yn gyfrifol am eu costau teithio a byw eu hunain, gan gynnwys biliau cyfleustodau (£40 yr wythnos).
Cyfnodau Interniaid Ymchwil ar gyfer haf 2024:
Cyfnod 1: 10 Ebrill – 19 Mai
Cyfnod 2: 22 Mai – 30 Mehefin
Cyfnod 3: 3 Gorfenhaf – 11 Awst
Cyfnod 4: 14 Awst – 22 Medi
Cyfnod 5: 25 Medi – 1 Tachwedd
Sgiliau / cymwysterau pwysig
Hanfodol:
- diddordeb cryf mewn cadwraeth ac addysg forol
- personoliaeth allblyg, hyder
- sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- y gallu i weithio a byw gyda gwirfoddolwyr eraill mewn lleoliad wedi’i ynysu
- rhaid i interniaid feddu ar flaengaredd, cymhelliant, y gallu i ddod â’u syniadau a’u personoliaethau i’r swydd, a’r gallu i feddwl ar eu traed
- ymrwymiad cryf i waith gwirfoddol
- gweithio’n annibynnol, mewn modd trefnus a dibynadwy a rheoli llwyth gwaith amrywiol
- y gallu i gyd-dynnu’n dda ag eraill mewn tîm bach ac mewn llety a rennir
- dylai interniaid gynrychioli SWF yn broffesiynol ar bob achlysur
Dymunol:
- cefndir mewn bioleg forol / gwyddoniaeth amgylcheddol neu debyg
- diddordeb cryf a rhywfaint o wybodaeth am famaliaid ac adar morol Prydain
- sgiliau TG da (pecyn Office)
- parodrwydd i weithio oriau hir, weithiau yn yr awyr agored, mewn tywydd cyfnewidiol
- eich cludiant eich hun (telir costau teithio o fewn y prosiect)
- y gallu i siarad Cymraeg
Rydym yn croeso ceisiadau gan ymgwiswyr rhyngwadol ond cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd i wneud yn siwr fod gofynion visa’s yn cael eu bodloni ac rydym yn gofyn i ymgeiswyr uwcholeuo ei ospwin visa dewisedig yn ei cais. Nodwch fod ni all Sea Watch Foundation noddi ceisiadau.
I ymgeisio:
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn nodi unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych, gan nodi’r cyfnod(au) y byddai’n well gennych wirfoddoli ar eu cyfer, yn ogystal â manylion cyswllt dau ganolwr, at:
Jenny Bond (Rheolwr y Prosiect) – jenny.bond@seawatchfoundation.org.uk
Yr Athro Peter GH Evans (Cyfarwyddwr SWF) – peter.evans@bangor.ac.uk
Dyddiad cau: 28fed o Ionawr 2024
Nodwch “CAIS INTERN YMCHWIL YNYS MÔN” yn y pwnc ar gyfer eich neges
Fydd cyfweliad yr ymgeiswyr yn cael ei gynnal drost Zoom
Cynorthwyydd Ymchwil ag Interniaid
Bydd y swydd hon yn addas i wirfoddolwyr sydd â sgiliau arwain cryf, diddordeb mawr mewn cadwraeth forol ac sy’n cydnabod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd morol drwy ymgysylltu â’r cyhoedd o bob grŵp oedran. Gall y swydd hon fod yn amrywiol iawn, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu delio â thasgau amrywiol, o gorweld interniaid eraill i rheoli data a gwaith arolwg. Maent yn cael eu hannog i gymeryd rheolaeth o gefnogi’r Arweinydd Prosiect a Swyddog Allgymorth ym mhob agwedd o’r prosiect.
Bydd y cynorthwyydd yn gyfrifol am y canlynol:
- Goruchwylio gweithgareddau’r tîm o hyd at chwe intern preswyl ar unrhyw un adeg, gyda chefnogaeth Rheolwr y Prosiect.
- Goruchwylio cynhaliaeth o’r llety a’r swyddfa.
- Cefnogi’r Rheolwr Prosiect a’r Swyddog Allgymorth yn eu swyddogaethau.
- Cefnogi’r interniaid ymchwil yn ei gwaith a cyflwyno’r cynnydd i’r Rheolwr Prosiect.
- Darparu hyfforddiant i’r interniaid pan yn digon hyderus i wneud.
- Codi proffil y Sea Watch Foundation yn lleol (trefnu digwyddiadau, siarad â’r cyhoedd, cysylltu â rhanddeiliaid lleol i ddatblygu rhagor o weithgareddau interniaeth);
- Datblygu arolygon o famaliaid morol ac adar môr yn ardal de-orllewin Ynys Môn a Bae Caernarfon, gan wylio o’r tir a chymryd rhan mewn arolygon ar gychod.
- Ymgysylltu â chymunedau lleol, annog a hyfforddi dinasyddion-wyddonwyr i gasglu data am famaliaid morol ac adar môr;
- Hyrwyddo a threfnu gweithgareddau allgymorth ac addysg digwyddiad National Whale and Dolphin Watch.
- Cymryd rhan mewn cyflwyniadau a chreu gweithgareddau i’w cyflwyno i ysgolion / grwpiau lleol, yn ogystal â defnyddio ein sgyrsiau arbenigol mewn digwyddiadau lleol;
- Creu deunyddiau addysgol / hyrwyddo (posteri, arddangosfeydd, taflenni);
- Rhwydweithio cymdeithasol rheolaidd (Facebook, Twitter, Instagram, blogiau, gwefan);
- Rhyngweithio â’r cyfryngau (radio, teledu a phapurau newydd), gan gynnwys paratoi datganiadau i’r wasg;
- Cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi yn Ynys Môn a Gwynedd;
- Cynrychioli Sea Watch mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Ynys Môn a Gwynedd;
- Darperir hyfforddiant a goruchwyliaeth gan Reolwr y Prosiect drwy gydol arhosiad y Cyd-drefnydd Interniaid..
Bydd y tymor maes yn rhedeg o 10fed o Ebrill i’t 1af o Dachwedd 2024 ac, ar gyfer yr Interniaid Ymchwil, mae wedi cael ei rannu’n gyfnodau o 5 wythnos. Mae’n ddelfrydol i’n Cyd-drefnydd Interniaid aros am y tymor cyfan ac wedi’i leoli yn Ystâd Bodorgan, Ynys Môn. Bydd llety’n cael ei ddarparu, heb rent, mewn tŷ sy’n cael ei rannu â’r Interniaid Ymchwil. Bydd yr Cyd-drefnydd Interniaid yn cael gwely dwbl yn yr llety, ond yn gyfrifol am ei gostau teithio a byw ei hun. Bydd biliau cyfleustodau am y swydd yma yn cael ei dalu gan y prosiect.
Sgiliau / cymwysterau pwysig
Hanfodol:
- diddordeb cryf mewn cadwraeth ac addysg forol
- y gallu i ddirprwyo, mynd ymlaen yn dda gyda tîm bach ac wrth rhannu llety
- cludiant eu hunain (bydd costau teithio o fewn y prosiect yn cael eu talu yn ol)
- personoliaeth allblyg, hyder a phrofiad o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd
- profiad o weithio gyda phobl ifanc
- sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol a rhywfaint o brofiad o siarad yn gyhoeddus
- profiad o bostio ar gyfryngau cymdeithasol
- rhaid i’r Cynorthwyyd Ymchwil ag Interniaid feddu ar flaengaredd, cymhelliant, y gallu i ddod â’i syniadau a’i bersonoliaeth i’r swydd, a’r gallu i feddwl ar ei draed ei hyn
- ymrwymiad cryf i waith gwirfoddol
- gweithio’n annibynnol, mewn modd trefnus a dibynadwy a rheoli llwyth gwaith amrywiol
- y gallu i ddirprwyo gwaith ac i gyd-dynnu’n dda ag eraill mewn tîm bach ac mewn llety a rennir
- dylai’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Interniaid gynrychioli SWF yn broffesiynol ar bob achlysur
- y gallu i weithio a chyd-fyw gyda gwirfoddolwyr eraill mewn lleoliad ynysig
Dymunol:
- cefndir mewn bioleg forol / gwyddoniaeth amgylcheddol neu debyg
- diddordeb cryf a rhywfaint o wybodaeth am famaliaid ac adar morol Prydain
- y gallu i siarad Cymraeg
- sgiliau TG da (pecyn Office)
- parodrwydd i weithio oriau hir, weithiau yn yr awyr agored, mewn tywydd cyfnewidiol
Rydym yn croeso ceisiadau gan ymgwiswyr rhyngwadol ond cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd i wneud yn siwr fod gofynion visa’s yn cael eu bodloni ac rydym yn gofyn i ymgeiswyr uwcholeuo ei ospwin visa dewisedig yn ei cais. Nodwch fod ni all Sea Watch Foundation noddi ceisiadau.
I ymgeisio:
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn nodi unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych, yn ogystal â manylion cyswllt dau ganolwr, at:
Jenny Bond (Rheolwr y Prosiect) – jenny.bond@seawatchfoundation.org.uk
Yr Athro Peter GH Evans (Cyfarwyddwr SWF) – peter.evans@bangor.ac.uk.
Dyddiad cau: 28 o Ionawr 2024
Nodwch “CAIS CYNORTHWYDD YMCHWIL AG INTERNIAID” yn y pwnc ar gyfer eich neges
Bydd cyfweliad yr ymgeiswyr yn cael ei gynnal drost Zoom.