Hysbyseb:
Cyfle Cynorthwydd Ymchwil ag Interniaid –
Sea Watch Foundation
Bob blwyddyn mae Sea Watch Foundation yn chwilio am Interniaid Ymchwil ac Cynorthwyydd Ymwchil ac Interniaid ar gyfer y tymor yn ein swyddfa maes ar Ynys Môn, Gogledd Cymru, i gymryd rhan mewn menter wyddor dinasyddion gyffrous i ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymwelwyr i arsylwi a chofnodi mamaliaid ac adar morol o gwmpas Bae Caernarfon. Bydd y gwaith yn enteilio arolygon o mamaliaid morol ac adar mor o gwch ac o’r lan, ymgysylltu a’r cyhoedd a gwaith ymchwil.
Bydd y cyfle hon yn addas i wirfoddolwyr sydd â sgiliau arwain cryf, diddordeb mawr mewn cadwraeth forol ac sy’n cydnabod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd morol drwy ymgysylltu â’r cyhoedd o bob grŵp oedran. Gall y swydd hon fod yn amrywiol iawn, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu delio â thasgau amrywiol, o gorweld interniaid eraill i rheoli data a gwaith arolwg. Maent yn cael eu hannog i gymeryd rheolaeth o gefnogi’r Arweinydd Prosiect a Swyddog Allgymorth ym mhob agwedd o’r prosiect, yn ogystal a cymeryd rhan mewn gwaith addysg a gweithgareddau yn yr ardal sydd oherwydd ei harddwch natruiol yn derbyn niferoedd mawr o ymwelwyr yn ystod yr haf..
Bydd y cynorthwyydd yn gyfrifol am y canlynol:
- Goruchwylio gweithgareddau’r tîm o hyd at chwech intern preswyl ar unrhyw un adeg, gyda chefnogaeth Rheolwr y Prosiect.
- Goruchwylio cynhaliaeth o’r llety a’r swyddfa.
- Cefnogi’r Rheolwr Prosiect a’r Swyddog Allgymorth yn eu swyddogaethau.
- Cefnogi’r interniaid ymchwil yn ei gwaith a cyflwyno’r cynnydd i’r Rheolwr Prosiect.
- Darparu hyfforddiant i’r interniaid pan yn digon hyderus i wneud.
- Codi proffil y Sea Watch Foundation yn lleol (trefnu digwyddiadau, siarad â’r cyhoedd, cysylltu â rhanddeiliaid lleol i ddatblygu rhagor o weithgareddau interniaeth);
- Datblygu arolygon o famaliaid morol ac adar môr yn ardal de-orllewin Ynys Môn a Bae Caernarfon, gan wylio o’r tir a chymryd rhan mewn arolygon ar gychod.
- Ymgysylltu â chymunedau lleol, annog a hyfforddi dinasyddion-wyddonwyr i gasglu data am famaliaid morol ac adar môr;
- Hyrwyddo a threfnu gweithgareddau allgymorth ac addysg digwyddiad National Whale and Dolphin Watch.
- Creu allgynhyrchion a casgliadau o ddata
- Cymryd rhan mewn cyflwyniadau a chreu gweithgareddau i’w cyflwyno i ysgolion / grwpiau lleol, yn ogystal â defnyddio ein sgyrsiau arbenigol mewn digwyddiadau lleol;
- Creu deunyddiau addysgol / hyrwyddo (posteri, arddangosfeydd, taflenni);
- Rhwydweithio cymdeithasol rheolaidd (Facebook, X, Instagram, blogiau, gwefan)
- Cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi yn Ynys Môn a Gwynedd;
- Cynrychioli Sea Watch mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Ynys Môn a Gwynedd;
- Darperir hyfforddiant a goruchwyliaeth gan Reolwr y Prosiect drwy gydol arhosiad y Cyd-drefnydd Interniaid..
Bydd y tymor maes yn rhedeg o Ebrill i Tachwedd ac, ar gyfer yrInterniaid Ymchwil, mae wedi cael ei rannu’n gyfnodau o 6 wythnos. Oriau swyddfa tebygol yw 10:00yb i 17:00yh, 5 diwrnoid yr wythnos, bydd diwrniodau gwaith yn gymysgedd o ddwirnodau wythnos a penwythnos. Bydd ein Mae’n ddelfrydol i’n Cynorthwydd Ymchwil ag Interniaid i aros am y tymor cyfan, ond os nad yn bosib, gall y rol gael ei rhannu i 2 sessiwn.
Sesiynau’r CYI am haf 2026:
Sesiwn 1af: Mawrth 30 – Gorffenaf 20ain
Seswin 2ail: Gorffenaf 20ain – Tachwedd 4
Bydd yr cynorthwyyd wedi’i leoli ar Ystad Bodorgan, Ynys Mon. Bydd llety’n cael ei ddarparu, heb rent, mewn tŷ sy’n cael ei rannu â’r Interniaid Ymchwil. Bydd yr Cynorthwydd Ymchwil ag Interniaid yn cael ystafell preifet gyda gwely dwbl, ond yn gyfrifol am ei gostau teithio a byw ei hun. Bydd biliau cyfleustodau am y swydd yma yn cael ei dalu gan y prosiect.
Rydym yn croeso ceisiadau rhyngwadol, ond mae’n gyfrifoldeb yr ymgeisydd i sicrhau fod gofynion visa wedi’i cyraedd ac rydym yn gofyn I’r ymgeisydd uwcholeuo eu dewis visa yn y cais. Nodwch nid yw Sea Watch Foundation yn gallu noddi cais visa ar gyfer interniaid.
Sgiliau / cymwysterau pwysig
Hanfodol:
- diddordeb cryf mewn cadwraeth ac addysg forol
- Cefndir mewn bioleg morol/gwyddoniaeth amgylcheddol neu tebyg
- y gallu i ddirprwyo, mynd ymlaen yn dda gyda tîm bach ac wrth rhannu llety
- cludiant eu hunain (bydd costau teithio o fewn y prosiect yn cael eu talu yn ol)
- personoliaeth allblyg, hyder a phrofiad o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd
- profiad o weithio gyda plant a phobl ifanc
- sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol a rhywfaint o brofiad o siarad yn gyhoeddus
- rhaid i’r Cynorthwyyd Ymchwil ag Interniaid feddu ar flaengaredd, cymhelliant, y gallu i ddod â’i syniadau a’i bersonoliaeth i’r swydd, a’r gallu i feddwl ar ei draed ei hyn
- ymrwymiad cryf i waith gwirfoddol
- Cludiant eu hyn gydag yswiriant ar gyfer defnydd busnes (bydd costau trafeilio o fewn y prosiect yn cael ei dalu yn ol gan y prosiect)
- gweithio’n annibynnol, mewn modd trefnus a dibynadwy a rheoli llwyth gwaith amrywiol
- dylai’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Interniaid gynrychioli SWF yn broffesiynol ar bob achlysur
- y gallu i weithio a chyd-fyw gyda gwirfoddolwyr eraill mewn lleoliad ynysig
- Sgiliau IT da (Office Package)
Dymunol:
- diddordeb cryf a rhywfaint o wybodaeth am famaliaid ac adar morol Prydain
- Profiad gyda R Studio ac QGIS
- Profiad o creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
- y gallu i siarad Cymraeg
- parodrwydd i weithio oriau hir, weithiau yn yr awyr agored, mewn tywydd cyfnewidiol
- Profiad gyda camera DSLR
- Profiad gyda gwaith cwch a gwaith arolwg
I ymgeisio gyrrwch:
- Eich CV
- Ac Llythyr yn amlinellu:
– Pam hoffwch ymgeisio
– Unrhyw sgiliau fysech yn cyfrannu at y prosiect
– Unrhyw cyflyrau meddygol fel ein fod yn gallu cynghori chi am unrhyw rhagofalon i gymeryd yn ystod gwaith maes neu unrhyw beth gallwn rhoid cyngor i chi am
– Manylion cysylltu dau canolwr
– Os ydych yn ymgeisio am y tymor cyfan neu un o’r sesiynau (nodwch eich sesiwn dewisol)
Os gwelwch yn dda gyrruch yr uchod i:
Jenny Bond: jenny.bond@seawatchfoundation.org.uk
Dyddiad cau: Hanner nos 31 Ionawr 2026
Nodwch “CAIS CYNORTHWYDD YMCHWIL AG INTERNIAID” yn y pwnc ar gyfer eich neges
Bydd cyfweliad yr ymgeiswyr yn cael ei gynnal drost Zoom.
Sea Watch Foundation
Mae’r Sea Watch Foundation yn elusen ymchwil amgylcheddol forol genedlaethol sydd â’r nod o warchod morfilod a dolffiniaid yn well yn y moroedd o amgylch Prydain ac Iwerddon, drwy gynnwys y cyhoedd yn y gwaith o fonitro poblogaethau’n wyddonol a’r bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu. Dyma’r elusen ymchwil hynaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar forfilod o gwmpas Ynysoedd Prydain, ac mae’n cynnal cronfa ddata genedlaethol o arsylwadau, y mwyaf yn Ewrop. Mae’n gweithio’n agos gyda holl asiantaethau cadwraeth statudol y DU, ac mae wedi rhoi cyngor i lywodraeth y DU, Cytundeb Cadwraeth rhynglywodraethol Rhanbarthol UNEP – ASCOBANS, a’r Comisiwn Ewropeaidd, yn ogystal â’r prif elusennau cadwraeth a diwydiannau morol sy’n gweithredu yn y DU.
Dros y 21 mlynedd diwethaf, mae’r Sea Watch Foundation (www.seawatchfoundation.org.uk) wedi bod yn monitro’r dolffiniaid, llamhidyddion a morfilod sy’n byw ym Mae Ceredigion yng ngorllewin Cymru, yn cofnodi tueddiadau helaethrwydd, yn nodi bygythiadau cadwraeth, ac yn cynghori ar y ffyrdd gorau o amddiffyn y poblogaethau yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, o’r tu fewn a’r tu allan iddynt. Ochr yn ochr â’i waith ymchwil a’i arolygon gwyddonol ei hun, mae Sea Watch wedi arloesi dros ddeng mlynedd ar hugain ym maes gwyddoniaeth i ddinasyddion, yn ogystal â chynnal amrywiaeth o raglenni addysg ac allgymorth.
Ymwybyddiaeth Gyhoeddus
Ein nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd y bywyd gwyllt morol a’r cynefinoedd sy’n eu cynnal, er mwyn hybu parch a chadwraeth yr amgylchedd morol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn ogystal, rydym yn cynnal cyrsiau hyfforddi ar gyfer y cyhoedd mewn dulliau adnabod ac arolygu morfilod ac adar môr.






















