Caru’r Cefni

Cynefinoedd dŵr croyw a morol llewyrchus i bawb!

Mae Caru’r Cefni yn brosiect newydd cyffrous arall gan y Sea Watch Foundation, sy’n gweithredu o’n Swyddfa Maes ym Modorgan, a leolir gerllaw Aber Afon Cefni, Ynys Môn. Gyda chyllid gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, mae Caru’r Cefni yn anelu at archwilio Afon Cefni a chodi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad sydd rhwng yr afon, o’i ffynhonnell ger Capel Coch yng nghanol Ynys Môn, a’r môr lleol – lle mae timau o interniaid a biolegwyr morol yn gweithio’n brysur mewn cychod ac ar yr arfordir creigiog yn arolygu creaduriaid sy’n perthyn i deulu’r morfil. Mae Caru’r Cefni yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang trwy weithio gyda chymunedau ac ysgolion i weithredu’n lleol.

Bydd Caru’r Cefni yn gweithio’n agos gyda’r mentrau hyn, a hefyd gyda’r cyngor, busnesau a phobl leol, i wneud y canlynol:

  • Rhoi dull amlasiantaeth ar waith ar gyfer glanhau’r afon
  • Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli i wella bioamrywiaeth, yn cynnwys rheoli rhywogaethau goresgynnol
  • Monitro ansawdd y dŵr
  • Dathlu’r amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a gynigir gan yr ecosystem hanfodol hon.

   

Dalgylch Afon Cefni gan Philip Snow, a chasglu lleisiau’r gymuned

 

Hefyd, bydd Caru’r Cefni yn cyflwyno rhaglen addysgol gydag ysgolion lleol, gan ddefnyddio’r adnodd amgylcheddol newydd Tir a Môr ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn – sef adnodd a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda sefydliadau amgylcheddol, yn cynnwys y Sea Watch Foundation. Bydd Caru’r Cefni yn rhannu gwybodaeth y Sea Watch Foundation ynglŷn â’r creaduriaid morfilaidd sy’n byw a bod yn y dyfroedd lleol hyn, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r modd y mae’r afon yn cysylltu â’r môr, dysgu pa agweddau ar yr ardal y mae’r plant yn gwirioni arnynt a chynyddu cyfleoedd iddynt gael profiad uniongyrchol o’r amgylchedd hardd hwn – gan ysbrydoli cadwraethwyr y dyfodol.

Os ydych yn byw gerllaw Afon Cefni, Aber Afon Cefni neu ardal arfordirol leol rhwng Ynys Llanddwyn ac Aberffraw, mae Caru’r Cefni yn awyddus i glywed gennych er mwyn dysgu pam ydych yn caru’r ardal hon, pa bryderon sydd gennych ynglŷn â’r amgylchedd a pha gamau yr hoffech iddynt gael eu cymryd i’w warchod.

Cwblhewch yr arolwg yma: https://forms.office.com/e/2x6JqUiHiD Cysylltwch heddiw â Siena McQuade, Swyddog Prosiect Caru’r Cefni, i rannu eich safbwyntiau ac i gymryd rhan: projectofficer@seawatchfoundation.org.uk

Darllenwch ein hadroddiad ar leisiau cymunedol

Dewch o hyd i ni ar Facebook neu Instagram!

Caru’r Cefni

Thriving freshwater and marine habitats for all!

Caru’r Cefni is another exciting new Sea Watch Foundation project operating from our Bodorgan Field Office, based alongside the Cefni Estuary, Ynys Môn. With funding from the Landfill Disposals Tax Communities Scheme, administered by the WCVA, Caru’r Cefni sets out to explore and raise awareness of the link between the River Cefni, from its source near Capel Coch in the heart of Ynys Môn, and the local sea – where our teams of interns and marine biologists are busy surveying cetaceans by boat and from the rocky coastline. Caru’r Cefni has a specific focus on addressing the global biodiversity crisis, by working with communities and schools to take action locally.

Caru’r Cefni will be working closely with these initiatives, the council, businesses and local people to:

  • Work towards a multi-agency approach to cleaning up the river
  • Promote biodiversity improvement volunteering opportunities, including invasive species control
  • Monitor water quality
  • Celebrate the diverse range of wildlife this vital ecosystem has to offer

The Afon Cefni catchment by Philip Snow, and gathering community voices

The Caru’r Cefni project will also deliver an educational programme with local schools, utilising the new environmental educational resource package Tir a Môr (‘Land and Sea) for Gwynedd and Ynys Môn, a resource developed in partnership with environmental organisations including Sea Watch Foundation. Caru’r Cefni will share Sea Watch Foundation knowledge of the cetaceans that frequent these local waters, raise awareness of how the river links to the sea, hear about what children love about the area and increase opportunities for them to experience this beautiful environment at first hand – inspiring the conservationists of tomorrow.

If you live alongside the Afon Cefni, Cefni Estuary or in the local coastal area between Ynys Llanddwyn and Aberffraw, Caru’r Cefni would like to hear from you about why you love about this area, any concerns you have about the environment and the action you would like to see to protect it.

Complete our Survey here: https://forms.office.com/e/PGJ6JxAYVy Contact our Caru’r Cefni Project Officer, Siena McQuade, today to share your views and to get involved: projectofficer@seawatchfoundation.org.uk Find us on Facebook or Instagram!

Read our Community Voices report