Mae’r Sea Watch Foundation yn chwilio am Interniaid Ymchwil ar gyfer tymor 2026 yn ei swyddfa maes newydd ar Ynys Môn, Gogledd Cymru, i gymryd rhan mewn cynllun gwyddoniaeth newydd a chyffrous i ddinasyddion er mwyn cynnwys cymunedau lleol ac ymwelwyr yn y gwaith o arsylwi a chofnodi mamaliaid ac adar morol fel rhan o brosiect cadwraeth morol.
Bydd y swydd hon yn addas i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mawr mewn cadwraeth forol ac sy’n cydnabod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r amgylchedd morol drwy ymgysylltu â’r cyhoedd o bob grŵp oedran. Gall y swydd hon fod yn amrywiol iawn, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu delio â thasgau amrywiol, o allgymorth cyhoeddus i arolygon ar gychod a chasglu ac ymdrin a data gwyddonol. Maent yn cael eu hannog i gynnal mentrau gyda gweithgareddau addysg ac allgymorth yn y rhanbarth sydd, oherwydd ei harddwch naturiol, yn derbyn nifer fawr o ymwelwyr yn ystod yr haf.
Bydd yr interniaid yn gyfrifol am y dyletswyddau canlynol:
- Codi proffil y Sea Watch Foundation yn lleol (trefnu digwyddiadau, siarad â’r cyhoedd, cysylltu â rhanddeiliaid lleol);
- Cynnal arolygon o famaliaid morol ac adar môr yn ardal de-orllewin Ynys Môn a Bae Caernarfon, gan wylio o’r tir a chymryd rhan mewn arolygon ar gychod;
- Ymgysylltu â chymunedau lleol, annog a hyfforddi gwyddonwyr sy’n ddinasyddion i gasglu data am famaliaid morol ac adar môr;
- Hyrwyddo a threfnu gweithgareddau allgymorth ac addysg digwyddiad y National Whale and Dolphin Watch.
- Cymryd rhan mewn cyflwyniadau a chreu gweithgareddau i’w cyflwyno i ysgolion / grwpiau lleol, yn ogystal â defnyddio ein sgyrsiau arbenigol mewn digwyddiadau lleol;
- Helpu i greu deunyddiau addysgol / hyrwyddo (posteri, arddangosfeydd, taflenni);
- Cymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi yn Ynys Môn a Gwynedd;
- Cynrychioli Sea Watch mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Ynys Môn a Gwynedd;
- Darperir hyfforddiant a goruchwyliaeth gan Reolwr y Prosiect a’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Allgymorth drwy gydol arhosiad yr interniaid.
Bydd y tymor maes yn rhedeg o fis Ebrill i fis Hydref ac, ar gyfer Interniaid Ymchwil, mae wedi cael ei rannu’n gyfnodau o 6 wythnos. Oriau swyddfa tebygol yw 10:00yb i 17:00yh, 5 diwrnod yr wythnos, gyda gwaith maes yn dusgyn allan o’r oriau yma. Bydd diwrnodau gweithio yn gymysgedd o diwrnodau wythnos ac penwythnos.
Lleolir yr interniaid yn Ystâd Bodorgan, Ynys Môn. Bydd llety’n cael ei ddarparu, heb rent, mewn tŷ a fydd yn cael ei rannu â’r interniaid eraill a’r Cynorthwyydd Ymchwil ac Allgymorth. Mae ystafellodd yn cael ei rhannu rhwng 2 o bobl, mi wnawn i ein gorau i gymhwysp ystafellodd rhiw sengl ond efallai ni fydd hyn yn bosib pob tro. Bydd yr interniaid yn gyfrifol am eu costau teithio a byw eu hunain, gan gynnwys biliau cyfleustodau o £40 yr wythnos. Bydd unrhyw gostau teithio o fewn y prosiect yn cael ei dalu yn ol gan y prosiect.
Cyfnodau Interniaid Ymchwil ar gyfer haf 2026:
- Cyfnod 1: 7 Ebrill – 16 Mai
- Cyfnod 2: 18 Mai – 27 Mehefin
- Cyfnod 3: 29 Mehefin – 8 Awst
- Cyfnod 4: 10 Awst – 19 Medi
- Cyfnod 5: 21 Medi – 31 Hydref
Sgiliau / cymwysterau pwysig
Hanfodol:
- diddordeb cryf mewn cadwraeth ac addysg forol
- personoliaeth allblyg, hyder
- sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- y gallu i weithio a byw gyda gwirfoddolwyr eraill mewn lleoliad wedi’i ynysu
- rhaid i interniaid feddu ar flaengaredd, cymhelliant, y gallu i ddod â’u syniadau a’u personoliaethau i’r swydd, a’r gallu i feddwl ar eu traed
- ymrwymiad cryf i waith gwirfoddol
- gweithio’n annibynnol, mewn modd trefnus a dibynadwy a rheoli llwyth gwaith amrywiol
- y gallu i gyd-dynnu’n dda ag eraill mewn tîm bach ac mewn llety a rennir
- dylai interniaid gynrychioli SWF yn broffesiynol ar bob achlysur
Dymunol:
- cefndir mewn bioleg forol / gwyddoniaeth amgylcheddol neu debyg
- diddordeb cryf a rhywfaint o wybodaeth am famaliaid ac adar morol Prydain
- sgiliau TG da (pecyn Office)
- parodrwydd i weithio oriau hir, weithiau yn yr awyr agored, mewn tywydd cyfnewidiol
- eich cludiant eich hun (telir costau teithio o fewn y prosiect)
- y gallu i siarad Cymraeg
I ymgeisio gyrrwch:
- Eich CV
- Llythyr Eglurhaol yn amlinellu:
– Pam hoffwch ymgeisio
– Pa sgiliau fysech yn cyfrannu at y prosiect
– Pa gyfnod(au) hoffwch wirfoddoli
– Unrhyw cyflyrau meddygol fel ein fod yn gallu cynghori chi am unrhyw rhagofalon i gymeryd yn ystod gwaith maes neu unrhyw beth gallwn rhoid cyngor i chi am
Os gwelwch yn dda gyrrwch yr uchod i:
Mel McKenzie – mel.mckenzie@seawatchfoundation.org.uk
Dyddiad cau: 6 o Chwefror 2026
Nodwch “CAIS INTERN YMCHWIL YNYS MÔN” yn y pwnc ar gyfer eich neges
Byddwn yn cynnal sesiwn gwybodaeth ar lein yn fuan yn Chwefror ble gall ymgeisydd glwyed mwy o wybodaeth am y prosiect ac bydd cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau. Bydd ymgeisydd yn cael clywed os yw’n llwyddianus ac i pa gyfnod erbyn 5yh 27ain o Chwefror 2026.
————————————————————————————————————————-
Sea Watch Foundation
Mae’r Sea Watch Foundation yn elusen ymchwil amgylcheddol forol genedlaethol sydd â’r nod o warchod morfilod a dolffiniaid yn well yn y moroedd o amgylch Prydain ac Iwerddon, drwy gynnwys y cyhoedd yn y gwaith o fonitro poblogaethau’n wyddonol a’r bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu. Dyma’r elusen ymchwil hynaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar forfilod o gwmpas Ynysoedd Prydain, ac mae’n cynnal cronfa ddata genedlaethol o arsylwadau, y mwyaf yn Ewrop. Mae’n gweithio’n agos gyda holl asiantaethau cadwraeth statudol y DU, ac mae wedi rhoi cyngor i lywodraeth y DU, Cytundeb Cadwraeth rhynglywodraethol Rhanbarthol UNEP – ASCOBANS, a’r Comisiwn Ewropeaidd, yn ogystal â’r prif elusennau cadwraeth a diwydiannau morol sy’n gweithredu yn y DU.
Dros y 21 mlynedd diwethaf, mae’r Sea Watch Foundation (www.seawatchfoundation.org.uk) wedi bod yn monitro’r dolffiniaid, llamhidyddion a morfilod sy’n byw ym Mae Ceredigion yng ngorllewin Cymru, yn cofnodi tueddiadau helaethrwydd, yn nodi bygythiadau cadwraeth, ac yn cynghori ar y ffyrdd gorau o amddiffyn y poblogaethau yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, o’r tu fewn a’r tu allan iddynt. Ochr yn ochr â’i waith ymchwil a’i arolygon gwyddonol ei hun, mae Sea Watch wedi arloesi dros ddeng mlynedd ar hugain ym maes gwyddoniaeth i ddinasyddion, yn ogystal â chynnal amrywiaeth o raglenni addysg ac allgymorth.
Ymwybyddiaeth Gyhoeddus
Ein nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd y bywyd gwyllt morol a’r cynefinoedd sy’n eu cynnal, er mwyn hybu parch a chadwraeth yr amgylchedd morol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn ogystal, rydym yn cynnal cyrsiau hyfforddi ar gyfer y cyhoedd mewn dulliau adnabod ac arolygu morfilod ac adar môr.






















