*Scroll down for English
Caru’r Cefni
Cynefinoedd dŵr croyw a morol llewyrchus i bawb!
Mae Caru’r Cefni yn brosiect newydd cyffrous arall gan y Sea Watch Foundation, sy’n gweithredu o’n Swyddfa Maes ym Modorgan, a leolir gerllaw Aber Afon Cefni, Ynys Môn. Gyda chyllid gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, mae Caru’r Cefni yn anelu at archwilio Afon Cefni a chodi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad sydd rhwng yr afon, o’i ffynhonnell ger Capel Coch yng nghanol Ynys Môn, a’r môr lleol – lle mae timau o interniaid a biolegwyr morol yn gweithio’n brysur mewn cychod ac ar yr arfordir creigiog yn arolygu creaduriaid sy’n perthyn i deulu’r morfil.
Mae Caru’r Cefni yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang trwy weithio gyda chymunedau ac ysgolion i weithredu’n lleol. Fel y nodir gan Sefydliad Iechyd y Byd, mae colledion o ran bioamrywiaeth yn bygwth gwasanaethau ecosystemau hanfodol, yn cynnwys peillio, ffrwythlondeb pridd a phuro dŵr, gan gael effaith uniongyrchol ar iechyd pobl.
Fel y nodir yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Natur (2023), mae cynifer ag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu yn y DU. Defnydd tir, colli cynefinoedd, newid hinsawdd, llygredd, systemau carthffosiaeth annigonol, ansawdd dŵr a rhywogaethau goresgynnol – dyma rai o’r bygythiadau hollbwysig sy’n wynebu bywyd gwyllt ac ecosystemau cyfan ledled y byd. Yng Nghymru, mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn dwyn ynghyd y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i weithio’n strategol i hyrwyddo a monitro gweithredu ar ecosystemau a bioamrywiaeth yng Nghymru, ynghyd â chynnig cyfeiriad ar flaenoriaethau gweithredu. Ar lawr gwlad, mae mentrau fel Natur am Byth – sef partneriaeth sy’n cynnwys elusennau amgylcheddol a Cyfoeth Naturiol Cymru – yn gweithio i achub rhywogaethau rhag difodiant.
Yn lleol, yn ardal dalgylch Afon Cefni, mae llu o sefydliadau, grwpiau a phobl leol yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng:
- Mae Afonydd Menai, un o brosiectau Menter Môn, yn helpu i warchod llygod pengrwn y dŵr yn Afon Cefni – sef rhywogaeth mewn perygl sydd wedi dioddef yn fawr oherwydd y Minc estron.
- Mae Gwarchodfa Natur Cors Ddyga, a reolir gan yr RSPB, yn cynnal rhywogaethau sydd mewn perygl, fel y Gylfinir a’r Gornchwiglen, yn ogystal â 30 a mwy o blanhigion prin y gwlyptir.
- Mae prosiect Corsydd Calon Môn, a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn anelu at warchod ffeniau Ynys Môn – sef darnau o wlyptiroedd a chynefinoedd prin sy’n storio hyd at wyth gwaith yn fwy o garbon na choedwigoedd glaw o’r un maint.
- Grŵp Coetir Cymunedol yw Llyn Parc Mawr, ac mae’n rheoli 24 hectar o Goedwig Niwbwrch mewn ffordd gynaliadwy er budd natur a’r gymuned leol.
- Menter bartneriaeth yw Glasffordd Môn, dan arweiniad Menter Môn, ac mae’n anelu at ddatblygu coridor gwyrdd di-dor o’r radd flaenaf ar gyfer cerdded, beicio a bywyd gwyllt ar draws Ynys Môn. Mae creu ac adfer cynefinoedd yn elfen hollbwysig o’r fenter.
Bydd Caru’r Cefni yn gweithio’n agos gyda’r mentrau hyn, a hefyd gyda’r cyngor, busnesau a phobl leol, i wneud y canlynol:
- Rhoi dull amlasiantaeth ar waith ar gyfer glanhau’r afon
- Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli i wella bioamrywiaeth, yn cynnwys rheoli rhywogaethau goresgynnol
- Monitro ansawdd y dŵr
- Dathlu’r amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a gynigir gan yr ecosystem hanfodol hon.
Hefyd, bydd Caru’r Cefni yn cyflwyno rhaglen addysgol gydag ysgolion lleol, gan ddefnyddio’r adnodd amgylcheddol newydd Tir a Môr ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn – sef adnodd a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda sefydliadau amgylcheddol, yn cynnwys y Sea Watch Foundation. Bydd Caru’r Cefni yn rhannu gwybodaeth y Sea Watch Foundation ynglŷn â’r creaduriaid morfilaidd sy’n byw a bod yn y dyfroedd lleol hyn, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r modd y mae’r afon yn cysylltu â’r môr, dysgu pa agweddau ar yr ardal y mae’r plant yn gwirioni arnynt a chynyddu cyfleoedd iddynt gael profiad uniongyrchol o’r amgylchedd hardd hwn – gan ysbrydoli cadwraethwyr y dyfodol.
Os ydych yn byw gerllaw Afon Cefni, Aber Afon Cefni neu ardal arfordirol leol rhwng Ynys Llanddwyn ac Aberffraw, mae Caru’r Cefni yn awyddus i glywed gennych er mwyn dysgu pam ydych yn caru’r ardal hon, pa bryderon sydd gennych ynglŷn â’r amgylchedd a pha gamau yr hoffech iddynt gael eu cymryd i’w warchod.
Cysylltwch heddiw â Lucy Kew, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Caru’r Cefni, i rannu eich safbwyntiau ac i gymryd rhan: lucy.kew@seawatchfoundation.org.uk
Dewch o hyd i ni ar Facebook neu Instagram!
Caru’r Cefni
Thriving freshwater and marine habitats for all!
Caru’r Cefni is another exciting new Sea Watch Foundation project operating from our Bodorgan Field Office, based alongside the Cefni Estuary, Ynys Môn. With funding from the Landfill Disposals Tax Communities Scheme, administered by the WCVA, Caru’r Cefni sets out to explore and raise awareness of the link between the River Cefni, from its source near Capel Coch in the heart of Ynys Môn, and the local sea – where our teams of interns and marine biologists are busy surveying cetaceans by boat and from the rocky coastline.
Caru’r Cefni has a specific focus on addressing the global biodiversity crisis, by working with communities and schools to take action locally. As outlined by the World Health Organisation: [Biodiversity] loss threatens essential ecosystem services, including pollination, soil fertility, and water purification, with direct consequences for human health.
In the UK, as detailed in the 2023 State of Nature Report, a staggering one in six species are at risk of extinction. Land use, habitat loss, climate change, pollution, inadequate sewer systems, water quality, and invasive species are some of the key threats faced by wildlife and whole ecosystems globally. In Wales, the Wales Biodiversity Partnership (WBP), brings the public, private and voluntary sectors together to work strategically to promote and monitor biodiversity and ecosystem action in Wales, and provide a steer on priorities for action. On the ground initiatives like Natur Am Byth, a partnership of environmental charities and Natural Resources Wales, are working to save species from extinction.
Locally, in the Cefni catchment area, there are a multitude of organisations, groups and local people taking action to address the crisis, including:
- Afonydd Menai, a Menter Môn project, helps conserve the endangered watervole on the Afon Cefni which have been badly affected by the non-native American Mink.
- Cors Ddyga Nature Reserve, managed by the RSPB, supports endangered species like Curlews and Lapwings, and over 30 rare wetland plants.
- North Wales Wildlife Trust’s Corsydd Calon Môn project works to protect the Anglesey fens – areas of wetlands and rare habitats that store upto eight times more carbon than rainforests of the same size.
- Llyn Parc Mawr is a Community Woodland Group that sustainably manage 24 hectares of the Newborough Forest for the benefit of nature and the local community.
- Glasffordd Môn is a partnership initiative led by Menter Môn with a view to develop a continuous high quality green corridor for walking and cycling, wildlife and landscape across Anglesey, with habitat creation and restoration being a key component.
Caru’r Cefni will be working closely with these initiatives, the council, businesses and local people to:
- Deliver a multi-agency approach to cleaning up the river
- Promote biodiversity improvement volunteering opportunities, including invasive species control
- Monitor water quality
- Celebrate the diverse range of wildlife this vital ecosystem has to offer.
The Caru’r Cefni project will also deliver an educational programme with local schools, utilising the new environmental educational resource package Tir a Môr (‘Land and Sea) for Gwynedd and Ynys Môn, a resource developed in partnership with environmental organisations including Sea Watch Foundation. Caru’r Cefni will share Sea Watch Foundation knowledge of the cetaceans that frequent these local waters, raise awareness of how the river links to the sea, hear about what children love about the area and increase opportunities for them to experience this beautiful environment at first hand – inspiring the conservationists of tomorrow.
If you live alongside the Afon Cefni, Cefni Estuary or local coastal area between Ynys Llanddwyn and Aberffraw, Caru’r Cefni would like to hear from you about why you love about this area, any concerns you have about the environment and the action you would like to see to protect it.
Contact our Caru’r Cefni Community Engagement Officer, Lucy Kew, today to share your views and to get involved: lucy.kew@seawatchfoundation.org.uk
































